Ychydig yn nol ddaru fi gael trafodaeth efo cyfaill ar Facebook am sut mae taste buds ni yn newid wrth i ni heneiddio. Ac hefyd sut mae ogla pethe yn mynd a ni yn nol mewn amser neu yn atgoffa ni a llefydd neu pobol arbennig.
Mae ogla a blas ‘Vimto’ yn mynd a fi i cae peldroed ‘Cae Clyd’ yn Manod ger Stiniog lle oedd fy Nhad yn mynd efo fi i weld tim Blaenau yn chwarae yn ystod fy mlentyndod.
Fel plentyn o’r 60au mae hyn sicr o fod yn wir. Fel pob plentyn gyda anabledd corfforol o’r cyfnod oedd rhaid I mi fynd yn ddisgbl mewn Ysgol ‘arbennig’. Ac yn Gogledd Cymru ar by pryd oedd yr Ysgol I plant anabl yn Craig Y Don, Llandudno. Ysgol Gogarth. Dwi wedi sgwennu nifer o postia am y cyfnod yma o’m mywyd ond mae rheswm arbennig I ychwanegu un arall heddiw.
Llai na milltir o’r Ysgol oedd siop yn gwethu papura newydd dan yr ‘The Chocolate Box’. Oedd hi yn lle arbennig I blentyn. Gyda fferins (I ni y Gogs) neu loshin I plant y de. Oedd didodydd o pob math hefyd. Ac lle i cael cigarette cynta os oedd rhywun amv drio. Fel pob plentyn arall o ni yn hoff o pop ac oedd na un enw yn enwog iawn. Pop o wahanol blas a lliwia.
Oedd na criw ohonnom yn rhannu ‘dormitories’ ar y pryd ac pob hyn a hyn oedd y plant yn mynd a box I lawr i’r siop I cael arian am mynd a poteli gwag i’r siop. Erbyn heddiw a finna yn drigian oed oedd yr adeg o mynd a poteli Corona wedi mynd o’r cof nes I mi weld grwp newydd ar Facebook. Grwp oedd a’i wreiddia yn nhdyddia cynta ‘Lockdown’ ar firws ofnadwy sydd yn dal i symyd trwy’r byd.
Mae Catrin Toffoc wedi gwneud rhywbeth anhygoel wrth creu grwp Cor-ona. Lle mae cantorion o Gymru a Cymru alltud o pob cwr o’r byd yn yn lawr lwytho perfformiadau o caneuon neu cerddoriaeth ar pob math o bynciau. A diolch I Catrin a cyd weithio a’r tenor Rhys Meirion mae Cor Digidol wedi canu y gan Cymreig enwog ‘Calon Lan’.
Oedd Catrin yn rhan o’r byd corawl cyn i COVID-19 cyrraedd. Ac ar ei ol oedd angen lle i cantorion o bob safon fynd ar lein i canu ac i eraill yn ei miloedd fwynhau. Wedi’r cyfan mae Cymru yn, ‘Wlad Y Gan’.
Ar ol i y firws cael ei ddifa dwi wir yn gobeithio bydd Cor-ona ddim yn diflanu. Dwi wedi clywed lleisiau newydd i mi a bysa fi wrth fy modd yn ei gweld nhw ar lwyfan ac diolch am fy diddori yn ystod y cyfnod dyrus yma.
Oedd gweld y byd yn y fath drafferth yn rhywbeth o ni byth yn disgwyl gweld. Ond, diolch I Catrin ydi Lockdown ddim wedi bod heb cysylltiad a cerddoriaeth O Gymru a finna yn Gymro alltud yn Wolverhampton ers dros ddegawd erbyn hyn. Dal ati Catrin a phob hwyl efo dy rhaglen ar Radio Cymru o Mai 16.