Cymreigdod (A Welsh language blog post on difficulty of being Welsh in another Country)

Yn 2007, a finna yn 47 oed, wnes i syrthio mewn cariad efo ferch o Bilston ar gyrion Wolverhampton. Ferch, oedd wedi ei magu yn Treffynon a Bwcle. Oedd y ddau ohonom wedi bod yn cyd ddisgyblion yn Ysgol Y Gogarth, Llandudno yn ein ieuenctid. Oedd Shan wedi symyd yna yn diwedd yr 80au ar ol cyfarfod a priodi gwr lleol ac wedyn wedi mynd ymlaen i magu merch.

Tan 2007 oedd Cymreigdod yn rhywbeth o ni ddim yn meddwl amdano yn ormodol. O ni yn gwybod bod i wedi fy ngenni i fewn i teulu dwy iaithog ac bod ni yn siarad Cymraeg fel teulu bob dydd. O ni wedi fy magu i wybod bod gan Gymru iaith a diwylliant ei hun ac bod hynny yn rhywbeth i ymfalchio ynddo. Fel rhan o hynny o ni yn mynd i’r Brifwyl bob tro oedd o yn cael ei lleoli yn y Gogledd. O ni yn gwybod pwy oedd Cynan a Gwyndaf pan o ni yn ddim o beth.

O ni, fel llawer i Gymro arall yn cefnogi y tim rygbi a pel droed cenedlaethol ac yn falch o llwyddiant tim Chris Coelman yn Euro 2016 ac yn llwyddiant tim Rob Page yn cyraedd rowndiau terfynol Euro 2020 er bod y ffordd mae nhw wedi ei sefydlu yn anheg iawn gyda dim gemau yn cael chwarae yng Nghymru ond yn cael ei cynal yn yr Alban a Lloegr. Er hynny mae Cymru wedi 6muno a Lloegr yn y 16 ola ac yn chwarae Denmark yn Amsterdam nos Sadwrn.

Mewn geiriau eraill oedd bod yn Gymro ddim yn rhywbeth o ni yn gorfod gweithio yn rhy galed i wneud.

Oedd Shan ddim wedi son llawer am ei teimladau ar ol symyd o bro Cymraeg heb law am y ffaith bod cymdeithas ddim yn agos mor glos mewn dinas fel Wolverhampton.

Oedd Shan dim wedi magu trwy’r iaith Cymraeg ac oherwydd hynny oedd dwy-iaithrwydd ddim yn rhan o’i bywyd bob dydd. Yn wahanol yw Chwaer Lesley b a’i phlant yn siarad Cymraeg ac wedi cael addysg trwy cyfrwng yr iaith.

I Cymro Cymraeg fel fi oedd y teimlad yn rhyfedd iawn. Pan symydais i Bilston o ni erioed wedi clywed am y lle. Ac i mi yr unig beth oedd Wolverhampton yn olygu I mi oedd Wolverhampton Wanderers FC.

Mewn ychydig o amser o ni yn gweld bod byw fel Cymro alltud yn newid mawr. O ni ddim yr aelod cynta o’n nheulu i wneud hyn chwaith. Ddaru fy rhienni cyfarfod yn Manceinion yn y 50au. Ac oedd Mam, cyn hynny wedi ei hyforddi i fod yn nyrs yn Briste.

Oedd pobol yn Wolverhampton yn trio gweithio allan yr acen oedd gen i. Oedd nhw yn gwbwl sicr bod i ddim wedi magu yn y (Black Country). Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio dwi wedi dod i wybod bod Bilston wedi bod yn ardal glofaol ers 1400 ac bod gwaith dur wedi bod yma hefyd. Ac oherwydd hynny oedd cymuned Cymraeg yn yr ardal I fod yn rhan ohonni. Mae yna Capel Cymraeg yn y ddinas ers 150 o flynyddoedd ac Cymdeithas Cambrian ar gael hefyd. Ac erbyn heddiw dwi yn falch o fod yn aelod a flaenor yn Capel Saron.

Ers dyfodiad Brexit mae na llawer o rhaniadau tu fewn i cymdeithas. Mae pobol sydd wedi symyd i fewn i’r wlad i weithio ers blynyddoedd yn teimlo bod ei lle yma ddim mor saf ac bod y croeso ddim yma chwaith.

Mae cadw cymdeithas a traddodiad eich gwlad yn fyw tra byw mewn gwlad arall yn anodd. Fel mae Gwyneth Glyn yn ein atgoffa yn ei clasur o gan ‘Adre’, “Oes un man yn debyg i adre ond mae adre yn debyg iawn i ti’. Mewn rhyw fordd rhyfedd mae o yn bywsicach i chi nac or blaen. Mae hi yn bosib i creu cymdeithas o’r newydd dim ond bod i ni cael y teimlad yna o berthyn.

Dwi yn crio yn rheolaeth rwan pan mae “Hen Wlad Fy Nhadau” yn cael ganu. Mae hiraeth yn rhywbeth dwi yn ei ddeallt erbyn hyn oherwydd mae na colled pan mae rhywun yn symyd o ardal lle mae’r gwreiddia yn ddwfn. Pan mae rhywun yn gofyn i mi o lle dwi yn dod dwi yn gallu dweud gyda balchder mae Cymro ydw i ac yn un o’r 20% sydd yn siarad “Iaith Y Nefoedd”.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s